Amserlen arfaethedig y cyfarfodydd:
Hydref 2013: Cyfarfod cychwynnol
Bydd y cyfarfod hwn yn penodi aelodau ar gyfer swyddi allweddol, yn egluro pam yr aethpwyd ati i gynnull y grŵp, yn cytuno ar y cylch gorchwyl ac yn datblygu cynllun gwaith.
Chwefror 2014: Gwahanu ar sail rhyw a’r bwlch cyflog
Bydd y cyfarfod
hwn yn ystyried achosion y bwlch cyflog rhwng y ddau ryw a gwahanu
ar sail rhyw yn y gweithle. Bydd y meysydd trafod yn cynnwys
cynrychiolaeth menywod yn y sectorau â blaenoriaeth,
prentisiaethau a gyrfaoedd STEM.
Mehefin 2014: Symud ymlaen
Bydd y cyfarfod hwn yn bwrw golwg ar yr hyn sy’n rhwystro menywod rhag symud ymlaen yn eu gyrfaoedd ac yn ystyried sut y gellir cynorthwyo menywod i wireddu eu potensial yn y gweithle.
Hydref 2014: Y Wasgfa Sgiliau
Bydd y cyfarfod hwn yn ystyried y tanddefnydd a wneir o sgiliau menywod ac yn trafod sut y gellir defnyddio’r adnodd hwn yn well i gefnogi’r economi.
Chwefror 2015: Y Gweithle Modern
Sut y gall arferion gweithle modern gynorthwyo i sicrhau’r newid sydd ei angen mewn diwylliant i gefnogi menywod i gymryd rhan yn y farchnad lafur i’w llawn botensial.
Mehefin 2015: Pwy sy’n Poeni?
Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar ddyletswyddau gofalu ac ar sut y dylid cefnogi gweithwyr i gydbwyso eu cyfrifoldebau yn y cartref ac yn y gweithle.
Hydref 2015: Menywod ym myd busnes
Bydd y cyfarfod hwn yn ystyried diffyg cynrychiolaeth menywod ym maes busnes. Yn y sesiwn hon, byddwn yn bwrw golwg ar y rhwystrau ac yn ystyried sut y gellir annog a chefnogi menywod sy’n entrepreneuriaid.
Chwefror 2016: Beth nesaf?
Bydd y cyfarfod hwn yn pwyso a mesur y trafodaethau ac yn ystyried pa gamau sydd angen eu cymryd i sicrhau cydraddoldeb rhywiol yn economi Cymru.